21 Hydref 2015

Annwyl Syr / Madam

Ymgynghoriad ar y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn awyddus i gael tystiolaeth ar y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft. I gynorthwyo ei waith, byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn am y Bil drafft.

Y Cefndir

Ar 21 Ionawr 2015, cytunodd y Pwyllgor Cyllid i gynnal ymchwiliad i ystyried ehangu pwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”). Pe byddai'r dystiolaeth yn cefnogi'r syniad o ehangu pwerau'r Ombwdsmon, byddai'r Pwyllgor yn ystyried cyflwyno Bil Pwyllgor. (Mae rhagor o fanylion am ymchwiliad cychwynnol y Pwyllgor ar wefan y Pwyllgor.)

Ym mis Mai 2015, cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar Ystyried Pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac argymhellodd y dylid cyflwyno Bil i'r Cynulliad. Cytunodd y Pwyllgor i ymgynghori ar Fil drafft newydd a fyddai'n cynnwys rhan helaeth o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 ond hefyd yn cynnwys y darpariaethau newydd a argymhellir gan y Pwyllgor yn ei adroddiad.

Er mwyn helpu i ystyried y Bil drafft, byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich sylwadau ar y cwestiynau yn Atodiad A.

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Mae'r Pwyllgor yn croesawu ymatebion, yn Gymraeg neu yn Saesneg, gan unigolion a sefydliadau, a bydd yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar maes o law.

Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y materion isod. Gweler y canllawiau ar gyfer y rhai sy'n darparu tystiolaeth i bwyllgorau.

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig o'ch cyflwyniad (fersiwn Word fyddai orau) at SeneddCyllid@cynulliad.cymru

Fel arall, ysgrifennwch at:

Glerc y Pwyllgor Cyllid
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA.

Dylai unrhyw sylwadau gyrraedd erbyn 18 Ionawr 2016. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr hwn at unrhyw unigolyn neu sefydliad a hoffai gyfrannu at yr adolygiad. Bydd copi o’r llythyr hwn yn cael ei roi ar wefan y Cynulliad ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.

Datgelu gwybodaeth

Mae gan y Cynulliad bolisi ynghylch datgelu gwybodaeth. Gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor. Neu, mae copi caled o'r polisi hwn i'w gael drwy gysylltu â'r Clerc (Leanne Hatcher 0300 200 6343).

Yn gywir

Jocelyn Davies AC / AM

Cadeirydd


 

Atodiad A

Cwestiynau'r ymgynghoriad

Rhowch eich sylwadau ar gynifer o'r cwestiynau sy'n berthnasol i chi / eich sefydliad, gan roi esboniad am bob ateb a roddir:

Cyffredinol

01. A fyddai'r Bil drafft yn gwella effeithiolrwydd rôl yr Ombwdsmon? Os felly, sut?

02. Os oes rhwystrau posibl i weithredu darpariaethau'r Bil drafft, beth ydynt? A yw'r Bil drafft yn eu hystyried yn ddigonol?

03. A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r Bil drafft?

04. Ar ba gam y dylid gwerthuso effaith y ddeddfwriaeth hon?

Pŵer i ymchwilio ar ei liwt ei hun

05. A oes gennych unrhyw sylwadau ar y pŵer newydd yn adran 4?

06. A yw cynnwys y pŵer hwn yn codi unrhyw ganlyniadau anfwriadol yng ngweddill y Bil drafft?

07. Â phwy y dylai'r Ombwdsmon ymgynghori o dan adran 4(2)?

08. A ddylai'r Ombwdsmon gael pŵer i gychwyn ymchwiliad yn seiliedig ar gamau gweithredu a ddigwyddodd cyn i'r Ddeddf/Bil drafft gael Cydsyniad Brenhinol (gweler adran 4(4))? Os felly, a ddylai fod yna dorbwynt, fel na fydd modd i'r Ombwdsmon, wedi iddo gyrraedd y torbwynt hwnnw, barhau i gynnal ymchwiliad ei liwt eich hun?

09. Pa fathau o faterion y dylid eu cynnwys yn y meini prawf ar gyfer ymchwiliadau ar ei liwt ei hun o dan adran 5?

10. Pa fath o dystiolaeth ddylai fod ar gael i'r Ombwdsmon i gyfiawnhau ymchwiliad ar ei liwt ei hun (gweler adran 5(2))?

Pwy sy'n cael cwyno

11.  A oes gennych unrhyw sylwadau am y diffiniad newydd o "aelod o'r cyhoedd" yn adran 7(2)?

Y gofynion ar gyfer cwynion a wneir ac a atgyfeirir at yr Ombwdsmon

12. A oes gennych unrhyw sylwadau am y gofynion newydd ar gyfer cwynion a wneir i'r Ombwdsmon yn adran 8?

13. Sut y dylai'r canllawiau arfaethedig ar gyfer gwneud cwyn i'r Ombwdsmon gael eu cyhoeddi a pha fformatau ddylai fod ar gael?

Materion y caniateir ymchwilio iddynt

14. A oes gennych chi unrhyw sylwadau am y ddarpariaeth newydd sy'n galluogi'r Ombwdsmon i ymchwilio i'r gŵyn gyfan pan fydd  y driniaeth yn gyfuniad o ddarparwyr gwasanaethau iechyd cyhoeddus a phreifat (gweler adrannau 10(1)(d) and 10(2))?

15. A yw adran 10(2) yn ymdrin yn ddigonol ag unrhyw un sydd wedi derbyn cyfuniad o driniaeth gyhoeddus a phreifat?

16. A yw ehangu'r materion y caniateir ymchwilio iddynt yn adran 10(2) yn codi unrhyw ganlyniadau anfwriadol yng ngweddill y Bil drafft?

17. A yw'r diffiniad o "gwasanaethau iechyd preifat" yn adran 71 yn ddigon eang i gwmpasu unrhyw un sydd wedi cael cyfuniad o driniaeth gyhoeddus a phreifat?

18. A ddylai'r Ombwdsmon gael pwerau i adennill costau yr aethpwyd iddynt wrth ymchwilio i wasanaethau iechyd preifat?

19. A oes gennych unrhyw sylwadau am y diffiniad newydd o "ddarparwr gwasanaethau iechyd teulu" yn adran 71, a fwriadwyd i gwmpasu, er enghraifft, bractis cyfan o feddygon teulu yn hytrach na meddyg teulu unigol?

Gweithdrefn ymchwilio a thystiolaeth

20. A oes gennych unrhyw sylwadau ar y weithdrefn a bennir yn adran 16 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r weithdrefn ar gyfer cynnal ymchwiliad ar ei liwt ei hun?

21. A ddylai pŵer yr Ombwdsmon mewn perthynas â chael gwybodaeth, dogfennau, tystiolaeth a chyfleusterau hefyd fod yn gymwys i ymchwiliadau ar ei liwt ei hun ac ymchwiliadau i wasanaethau iechyd preifat (gweler adran 17)?

Awdurdodau Rhestredig

22. A oes gennych unrhyw sylwadau ar y cyfyngiadau ar y pŵer i ddiwygio Atodlen 3 (gweler adran 30(2) yn benodol), sydd lawer yn gulach na'r cyfyngiadau yn Neddf 2005?

23. A oes unrhyw gyrff eraill y dylid eu cynnwys ar y rhestr o 'Awdurdodau Rhestredig' yn Atodlen 3?

Ymdrin â chwynion

24. A oes gennych unrhyw sylwadau ar adrannau 33 i 39 (sy'n adlewyrchu adrannau 16A i 16G o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban 2002)?

25. A yw adran 38(b) yn ddigonol i ganiatáu i awdurdodau rhestredig gydymffurfio â'u dyletswyddau o dan ddeddfiadau eraill, fel y dyletswyddau Rhyddid Gwybodaeth?

Rhan 4: Ymchwilio i gwynion sy'n ymwneud â phersonau eraill: gofal cymdeithasol a gofal lliniarol

26. A ddylai Rhan 4 barhau i fod yn annibynnol? Neu a ddylai ymchwiliadau o'r fath gael eu dwyn o fewn y broses ymchwilio yn Rhan 3?

27. Os dylai Rhan 4 gael ei dwyn o fewn Rhan 3, a oes unrhyw elfennau penodol o Ran 4 a ddylai barhau? Neu a ellir cymhwyso dull mwy cyffredinol?

Rhan 5: Ymchwiliadau: cwestiynau atodol

28. A oes gennych unrhyw sylwadau ar adrannau 62, 63 a 64, sy'n darparu ar gyfer cydweithio a chydlafurio â Chomisiynwyr penodol ac Archwilydd Cyffredinol Cymru?

29. A ddylai adrannau 62 a 63 gynnwys unrhyw gomisiynwyr y gallai'r Cynulliad eu sefydlu yn y dyfodol, gan gynnwys Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru?

30. A oes unrhyw newidiadau technegol pellach sydd eu hangen yn Rhan 5 o'r Bil drafft, er mwyn adlewyrchu'r materion ehangach y gellir ymchwilio iddynt?

Penodi etc

31. Mae darpariaethau paragraffau 5 i 8 o Atodlen 1 (anghymhwyso) yn adlewyrchu'n bennaf y darpariaethau presennol yn Neddf 2005. A oes angen diweddaru'r darpariaethau hyn?

32. Mae Paragraff 1 o Atodlen 1 yn darparu bod person sydd wedi peidio â dal swydd Ombwdsmon neu swydd Ombwdsmon dros dro wedi'i anghymhwyso o restr o rolau (a restrir ym mharagraff 7(1)) am gyfnod o ddwy flynedd. A yw'r cyfnod o ddwy flynedd yn briodol?

33. A oes gennych sylwadau am y materion a gynhwysir yn y "swydd â thâl" ym mharagraff 8 o Atodlen 1?

Goblygiadau ariannol

34. A oes gennych farn am oblygiadau ariannol y darpariaethau newydd yn y Bil drafft?

Sylwadau eraill

35. A oes gennych unrhyw sylwadau eraill yr hoffech eu gwneud am y Bil drafft neu unrhyw ddarpariaeth benodol ynddo?